Wedi llwyddiant Oedfa'r Bore yn Y Babell Len a Chymanfa Ganu'r Eisteddfod, mawr ein diolch i’r Parchedigion Densil Morgan, Carwyn Siddall, Ifan Roberts am bregethu meddylgar a phregethau gwerthfawr yn ystod mis Awst. Hyfrydwch, o Sul i Sul, oedd cael cwmni ein brodyr a chwiorydd o eglwysi’r ddinas. Da yw cydaddoli a chyd-dystio. Boed bendith ar weinidogaeth eglwysi Caerdydd a Chymru gyfan. Trwom, rhyngom, amdanom boed cariad Duw. Lluniau bach ydym ynr un llun.
Braf fydd cael cwmni ein Gweinidog dros y Sul. Am 10:30 ein Hoedfa Foreol: Yr Ardderchocaf Vladimir, Fyodor Dostoyevsky, Haleliwia mewn canolfan siopa a phrydferthwch anghymharol Iesu. Daw’r ddau ddarlleniad o’r Testament Newydd: 'Y Bugeiliaid a’r Angylion' (Luc 2:8-20) a 'Cariad', 1 Corinthiaid 13. Dewch â chroeso.
Nos Sul am 18:00 yr Oedfa Hwyrol. Gardd ein perthynas â Duw fydd testun homili Owain Llyr. Daw’r darlleniad o’r Efengyl yn ôl Ioan: 'Iesu’n ymddangos i Fair Magdalen' (20:11-18). Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Boed bendith.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol. Boed iddynt a’r Gweinidog amlygu’r cyfleodd sydd o’n blaen, ein hannog i gydio ynddynt, gan ymroi gyda’n gilydd i osod ein doniau at wasanaeth yr Achos, gan gymryd cyfrifoldeb o fewn yr eglwys, a chofio amdani mewn gweddi.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (5/9): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (7/9; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.