CAFFI CELF #3

Bore heddiw, Caffi Celf: 'Atgyfodiad’ Alma Thomas ac Anneke Kaai; y Crist Cosmig gan Marian Bohusz-Szyszko; ‘Room for Hope’ gan Seyed Alavi i orffen. Perthyn i bob un ei lif a’i symud; llif yn symud ni trwy anobaith i obaith, trwy amheuaeth i ffydd. Trafod; dysgu; cymdeithasu.

Y GYMDEITHAS

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street: Emlyn Davies yn cyflwyno 'Hanes Dau Gymro': Coch Bach y Bala a Cochfarf.

Am stori ddifyr a noson dda!

Diolch i Emlyn ac i bawb a fu ynglŷn a threfnu a chynnal y cyfarfod

EGLWYS LLANFAIR, PENRHYS

Eglwys Minny Street yn derbyn ymweliad gan gwmni o ffyddloniaid Eglwys Llanfair, Penrhys heddiw; derbyn bendith ac arweiniad ganddynt o'r ieuangaf i'r hynaf: dyma eglwys ar waith yn, trwy a gyda'i phobl.

Mawr ddiolch i bawb.

Y SUL

Bore ‘fory am 9:30, ‘Cydio yn ‘Na’’ (Mathew 5:37).

Cynhelir Ysgol Sul.

Edrychwn ymlaen i groesawu atom cyfeillion o Eglwys Llanfair, Penrhys yn ystod y prynhawn. Diolch am bob cymorth.

Liw nos am 18:00 (Z), ‘Gollwng y Gofynod’ (Salm 4:6).

Dewch/ymunwch â chroeso

CERDDED A TEITHIO’R DEML HEDDWCH

Diolch am gwmni'r cerddwyr bore heddiw: camau, cwmni, cymdeithas, coffi Caffi Castan; roedd Awstin yn hollol iawn: Solvitur ambulando. Wedyn ymlaen i'r Deml Heddwch; diolch i Craig Owen am ein tywys o gwmpas yr adeilad arwyddocaol hwn; cawsom ragwelediad i weledigaeth yr Arglwydd David Davies o Landinam ac i arwyddocâd pensaernïaeth Percy Edward Thomas. Uchafbwynt oedd cael gweld a throi tudalen y Llyfr Coffa Cymreig, sy'n cynnwys dros 35,000 o enwau o'r rhai a gollodd eu bywyd yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.

MINNY STREET A SUCCOTT

Diolch i’r cwmni bach a ddaeth ynghyd heno i ‘Minny Street a Succott’. Cyfle i sicrhau’r hoelion; i ail-glymu rhaffau a chortynnau ein pabell at nerth a sicrwydd Iesu, ein Harglwydd. (Eseia 54:2) Diolch i William Williams, Ieuan Gwynedd ac Eben Fardd am alw fewn i estyn cymorth.

AM FORE!

Am fore da!

Ein Hoedfa Deuluol yn fwrlwm o hwyl a bendith - Cristo Redentor; cariad Iesu 'cymaint â hyn!’; Iesu'n dysgu ni i 'weld ymhell, gweld yn iawn’; Iesu a'i Eglwys fel 'byd a bawd'.

Wedi’r Oedfa, ymweld â Treetops Crazy Golf.

Staff yn wych yno!

Diolch yn fawr.