ninnau'n tynnu i ddiwedd wythnos brysur, da oedd y cyfle i ddod eto ynghyd am baned a chacen, sgwrs ysgafn a chwmnïaeth dda - bendith o fore. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu, yn arbennig felly Gwennith ac Elfan.
CAFFI CELF #2
Caffi Celf Minny Street (2)
Celfyddyd i herio anobaith: bu ‘Ruby Green Singing’ a Veronica (Bosch) yn gymorth i ni weld yr hyn na wêl George Grosz o gwbl: … y llaw a all fy nghynnal i/a’i gafael ynof er nas gwelaf hi.’ (John Roberts).
Dyma eli i ddolur anobaith.
Diolch i bawb.
MINNY STREET A YOM KIPPUR
Diolch i bawb a ddaeth ynghyd heno i ‘Minny Street a Yom Kippur’. Iddewon a’i peidio, mae neges Yom Kippur - the Day of Atonement - yn bwysig i bob perchen ffydd: rhaid ystyried sut orau i fod ‘At One’ â’n hunain, ein gilydd ac â Duw. Testun ein sylw oedd Edith Stein (1891-1942)
Y GYMDEITHAS
Noson agoriadol ein Cymdeithas Ddiwylliannol: M. Wynn Thomas yn cyflwyno hanes 'The History of Wales in Twelve Poems'. Cawsom ragwelediad newydd i ddiben a gwerth y trysor hwn o gyfrol; y cyfan wedi'i gyflwyno'n ddifyr a hwyliog. Diolch i bawb.
TAITH GERDDED OWAIN LLŶR #2
Y SUL
PIMS
PIMS 28ain o Fedi
Llun 1 - Cynfas PIMS am weddill y flwyddyn.
Llun 2 - Ein ‘celfyddyd’ cyntaf.
Llun 3 - Neges y noson.
Diolch i bawb!
OEDFAON Y SUL
Boed bendith ar Oedfaon y dydd yfory.
9:30 (YS;Z) - y Parchedig Robin Wyn Samuel.
18:00 - y Parchedig Ddoctor Alun Tudur.