Mae dylanwadau tawel ein profiad yn rhai dwfn a pharhaol, ac ymysg un o’r portreadau hoffusaf o Was yr Arglwydd gan Eseia broffwyd yw hwnnw amdano fel un na fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol (42:2). Mae’n debyg bod rhagor rhwng huodledd a huodledd! Yn ei gyfrol Cymeriadau (1933) mae T. Gwynn Jones (1871-1949) yn sôn am Thomas Francis Roberts (1860-1919), Prifathro Aberystwyth: prin y gellid dywedyd y byddai byth yn huawdl, yn ystyr gyffredin y gair hwnnw; ac eto, yr oedd yn huawdl mewn ystyr dawel, wastad, a gwahanol iawn i’r llacrwydd ymadrodd a’r triciau mân a elwir yn gyffredin yn huodledd.
Hawdd meddwl am lawer personoliaeth o’r math yma sy’n dylanwadu arnom yn anhraethol fwy nag y sylweddolant byth. Eneidiau dethol yw’r rhain y byddai’n profiad yn dlotach o lawer hebddynt. Gellid dweud amdanynt, fel canodd Alan Llwyd am ei dad:
...darn o gadernid
Y fro hon oedd ef i’w wraidd,
Y gwron tawel, gwaraidd.
Amyneddgar, hawddgar oedd...
(I Gofio 'Nhad; Clirio'r Atig a Cherddi Eraill; 2005)
Am funud heddiw, meddyliwn am y bobl hynny y byddwn yn eu cyfarfod yn gyson ac yn ymwneud â nhw’n rheolaidd, na wawriodd arnynt erioed eu bod yn meddalu’r caledwch a gerwinder a berthyn inni â’u gwyleidd-dra a’u graslonrwydd. Onid Mab diddanwch oedd ystyr yr enw Barnabas? (Actau 4:36 WM; Mab Anogaeth a geir yn y BCN, Anogwr yn Beibl.net) ‘Roedd Barnabas yn gysur i lawer, ac un o’i gymwynasau mwyaf - tragwyddol fwy nag y meddyliodd erioed, gan ei bod yn gymwynas i’r canrifoedd, oedd iddo gymryd Ioan Marc dan ei adain (Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan Marc gyda hwy; ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb gydweithio â hwy. Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Actau 15:27) gan ei ddiddanu a’i annog, hyd nes i hwnnw ddod yn gymaint cymeriad fel bo Paul yn gallu sôn amdano yn y diwedd fel hyn: buddiol yw efe i mi i’r weinidogaeth (2 Timotheus 4:11 WM).
Diolchwn heddiw am bob mab a merch diddanwch. Diolch i Dduw am weinidogaeth dawel bob merch a mab anogaeth.
Y pennaf ddiolch, wrth gwrs, yw nyni’n ymroi i fod yn fwy tebyg iddynt.
(OLlE)