Yn 1908 y cynhaliwyd yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol am y tro cyntaf, er mai'r Wythawd Undod Cristnogol y’i gelwid y pryd hynny. Penderfynwyd ar ddyddiadau’r cyfnod fel wyth nos yn dechrau ar Ŵyl Cyffes Pedr (18 Ionawr) ac yn gorffen ar Ŵyl Tröedigaeth Paul (25 Ionawr). Heno, er ychydig yn gynt na’r dyddiadau ‘swyddogol’, cawsom ninnau, aelodau Eglwysi Cymraeg Caerdydd, gyfle i ddod at ein gilydd yng nghapel Tabernacl, yr Âis, o dan nawdd ein Cyngor Eglwysi, i weddïo a myfyrio am ac ar Undeb Cristnogol.
Gyda llywyddiaeth y Parchedig Lona Roberts wedi dirwyn i ben ar ddiwedd 2015, cymerodd Mrs Helen Jones at yr awenau. Diolch i’r Parchedig Ddr Alun Tudur am ei waith fel Ysgrifennydd y Cyngor a'r Parchedig Dyfrig Lloyd yw deiliad newydd y swydd. Wedi croesawu pawb i'r cyfarfod, arweiniwyd y defosiwn gan y Parchedig Denzil John.
Wrth ddiolch am y fraint o dderbyn Llywyddiaeth, cafwyd anerchiad cyfoethog gan Mrs Helen Jones yn canolbwyntio ar y geiriau: Chwi yw goleuni’r byd (Mathew 5: 14a) ac yn briodol iawn, Chwi yw halen y ddaear (5:13a) gan mai Halen y Ddaear yw'r thema a ddewiswyd gan eglwysi Latfia i’r Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol eleni. Mae’r ddelwedd bwerus a gynigiwyd ganddynt yn ein hatgoffa o’r hyn y bu i ni eisoes ei ddysgu dros y blynyddoedd a fu, ond hefyd yn ein herio i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’n gilydd wrth inni weddïo, fel y gweddïodd Crist, am i Gristnogion oll fod yn un. ‘Roedd halen, yng nghyfnod Iesu, yn werthfawr iawn. ‘Roedd halen yn anhepgor i roi blas ar fwyd, ac i gadw bwyd rhag llygru. Wrth ddefnyddio’r ddelwedd hon mae Iesu’n pwysleisio fod rheidrwydd ar ei bobl i gadw bywyd rhag llwydo. Rhydd Iesu hefyd rybudd: … pan mae’r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto (Mathew 5:13 Beibl.net). Â threth drom arno'r cyfnod hwnnw, llygrid halen yn fynych drwy ei gymysgu â defnyddiau eraill, fel tywod. Gwyddai’r tlodion beth oedd prynu halen heb flas arno. Galwad arnom ninnau i gydnabod yr hyn sydd yn llygru halen ein cenhadaeth a geir eleni. Mae Iesu yn ein herio i gydnabod bod amrywiaeth yn rhan o gynllun Duw, ac o’r herwydd i glosio at ein gilydd gan weithio a chydweithio i gadw bywyd rhag llygru ac i roi blas ar fyw holl bobl Dduw: 'Mae undod a chenhadaeth o'r un hanfod'.
Arglwydd Iesu, Arglwydd cyfanrwydd, mae dy weddi am undod ymhlith dy ddisgyblion wedi syrthio ar glustiau byddar a chalonnau caled. Maddau i ni ein clustiau byddar, caeedig, maddau i ni ein calonnau caled sy’n cynnal amheuaeth, rhagfarn a rhaniad: maddau i ni ein cenhadaeth doredig. Agor ein calonnau, ein llygaid a’n meddyliau i’th gariad a’th wirionedd o fewn yr holl bobl Gristnogol a chryfha ynom y penderfyniad i weithio er mwyn adfer undod dy Eglwys a’th greadigaeth er gogoniant i’th enw.
(Halen y Ddaear; cyh. Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon)