'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Aeth y weddi honno’n ddisylw gennyf ers blynyddoedd bellach - rhag fy nghywilydd! Gosodwyd y geiriau ar ddrws ffrynt capel Minny Street yn 2009 â ninnau nodi 175 o flynyddoedd o dystiolaeth Gristnogol yma yn y Waun Ddyfal, Caerdydd:
O! Dduw, gwna ddrws y tŷ hwn yn ddigon llydan i dderbyn pawb y mae angen cariad dynol a chymdeithas dda arnynt; yn ddigon cul i gadw allan bob eiddigedd, balchder ac ymryson. Gwna ei drothwy yn ddigon llyfn fel na fyddo’n faen tramgwydd i blant, nac i draed crwydredig, ond yn ddigon garw i gadw grym y temtiwr draw. O Dduw, gwna’r drws hwn yn borth i’th deyrnas dragwyddol di.
(Eglwys Sant Steffan, Walbrook, Llundain. Priodolir y geiriau gwreiddiol i’r offeiriad o emynydd, Thomas Ken, 1637-1711)
... dewiswn, meddai’r Salmydd gynt, gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb (Salm 84:10 WM). Sylweddolodd y Salmydd fod y lle distadlaf yn Nhŷ Dduw yn well na gorau’r byd. Digon iddo oedd bod ar y trothwy, er y gwyddai mai tu mewn yr oedd gorau’r Deml - y Drugareddfa, y cynteddau, a’r Cysegr Sancteiddiolaf. Ni chwenychai fwy na bod wrth y drws; dim ond hynny, ac ‘roedd dim ond hynny yn well na gorau’r byd i gyd.
Gwahanol yw’r syniad am Dŷ Dduw yn y Testament Newydd i’r hyn ydoedd ym meddwl y Salmydd. Carreg aelwyd yw ei sail yn y Testament Newydd, a phresenoldeb a bendith Tad yw ei ogoniant pennaf. Nid Tŷ i’r teilwng mohono, ond i’r annheilwng, yr afradlon a’r digartref. Mor bwysig felly yw gwaith y rhai sydd am gadw drws yn nhŷ fy Nuw. Anodd meddwl am waith pwysicach - hwyluso’r ffordd i eraill ddod i mewn i dderbyn croeso’r Tad. Yn wir, dyna le pawb ohonom a gafodd ei fendith Ef: wrth y drws.
Y cwestiwn pwysicaf i bob un ohonom yw hwn: a ydym yn ei gwneud yn haws neu yn anoddach i eraill i dderbyn croeso’r Tad? Holed pob un ef ei hun. A yw ein ffordd o grefydda yn rhwystr neu’n gymorth i eraill dderbyn o gariad ein Tad? Gwell ganwaith yw bod wrth y drws na bod wrthi’n ceisio diogelu cornel fach gynnes i ni ein hunain ar yr aelwyd! Yn ôl awgrym dameg y Mab Afradlon, wrth y drws y mae’r Tad hefyd; ac yno yr erys hyd nes y daw ei blant i gyd adref. Yno wrth y drws, y gwelir ei orau Ef, ei lygaid trugarog, ei lawenydd a’i groeso hael.
Wn i ddim pwy sydd biau’r geiriau, ond heriol hyfryd ydynt:
To keep God’s door -
I am not fit.
I would not ask for more
Than this -
To stand or sit
Upon the threshold of God’s House
Out of the reach of sin,
To open wide His door
To those who come,
To welcome home
His children and His poor.