Buom, ers mis Medi’r llynedd, dan arweiniad ein Gweinidog yn ystyried ‘Pobl y Testament Newydd’. Daw’r gyfres hon i’w therfyn trwy gyfrwng gyfres fechan o fyfyrdodau yn seiliedig ar deulu Bethania!
Y bore Sul aeth heibio Lasarus oedd testun ein sylw, a Martha liw nos. Bore Sul am 10:30 Mair fydd gwrthrych ein myfyrdod. Awgrym cyntaf ein Gweinidog yw mai’r gair mwyaf pwrpasol i ddisgrifio Efengyl Iesu Grist yw’r gair Smashing. Mae’r Efengyl yn smashing! Yn ail, rhaid wrth wyleidd-dra, a meddwl agored a gonestrwydd i ddilyn esiampl Mair: eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd a gwrando ar ei air (Luc 10:39). Eistedd a wnâi Lasarus. Ni allodd Lasarus a gwneud dim mwy na hynny. Yn wir, o wneud hynny, nid oedd yn rhaid iddo wneud dim byd mwy. Dyma yw esiampl Lasarus i ni: eistedd gydag Iesu. Y noson honno, methodd Martha ag eistedd. Anodd i hon oedd bod yn llonydd, mynnodd felly cael gweini. Gwasanaethu a wnâi Martha. Ni allodd Martha a gwneud dim mwy na hynny. Yn wir, o wneud hynny, nid oedd yn rhaid iddi wneud dim byd mwy. Dyma yw esiampl Martha i ni: gwasanaethu. Esiampl Mair? Parodrwydd i roi o’i gorau i Iesu, ac i dderbyn o orau Iesu.
Liw nos (18:00): Canys ei waith ef ydym (Effesiaid 2:10a) fydd testun pregeth Owain Llyr. Gan awgrymu mai pobl Dduw yw barddoniaeth Duw, ceir pum pen i’r bregeth: testun; awen; cynghanedd; amrywiaeth a bywyd. Boed bendith.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Cynhelir yr Ysgol Sul bore Sul, ac yn dilyn yr Oedfa: Picnic a Gemau Gwirion! Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu.
Testun adnodau’r oedolion bore Sul yw ‘Ffyddlondeb’.
Babimini bore Gwener (21/7; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
MUNUD YN DY GWMNI. Gwahoddir pawb i lansiad MUNUD YN DY GWMNI, cyfrol o weddïau a myfyrdod gan ein Gweinidog, yn y Festri wedi’r Oedfa Foreol 23/7.