... weithiau, dyw pethau ddim yn iawn, a llesol yw cydnabod hynny.
Diben syml myfyrdodau’r Wythnos Fawr eleni yw hunanymholiad.
Mewn distawrwydd ystyriwch eiriau’r Proffwyd:
Llifed barn fel dyfroedd
a chyfiawnder fel afon gref.
(Amos 5:24)
Yn dawel ac ystyriol offrymwch y weddi hon:
Rhag diffyg cariad a chydymdeimlad ...
Rhag methu llawenhau gyda’r sawl sy’n llawen,
ac wylo gyda’r sawl sy’n drist eu calon ...
Rhag gwrthod cymryd baich anghyfiawnder a thrallod a phechod byd yn faich yn ein calonnau ein hunain ...
Gwared ni, Arglwydd. Amen.
Glanhau’r Deml
Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gelwch yn dda i Marc 11:15-19.
Teml Duw. ’Roedd angen ei glanhau, a gloywi ei delfryd, gan atgoffa pobl o’i diben ... erys yr angen.