Swper yn y Grug ...
The Magnificent Six ...
Tân ar y Gromlin ...
Alice in Poundland ...
The Fobbit ...
... weithiau, dyw pethau ddim yn iawn, a llesol yw cydnabod hynny.
Diben syml myfyrdodau’r Wythnos Fawr eleni yw hunanymholiad.
Cynigir delwedd, adnod a gweddi gan orffen gyda myfyrdod bychan bachog.
Mewn distawrwydd ystyriwch eiriau’r Salmydd:
Ymlonyddwch, a dysgwch mai myfi sydd Dduw.
(Salm 46:10)
Yn dawel ac ystyriol offrymwch y weddi hon:
Na chofia, Arglwydd, y pethau nas gwnaethom ...
Na chofia, Arglwydd, yr addewidion a dorasom ...
Na chofio, Arglwydd, y cyfleoedd a gollasom ...
Nyni, wedi ein galw i’th wasanaeth erfyniwn arnat ein gwneud yn deilwng o’n galwedigaeth; drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Sul y Blodau. Darllenwch Marc 11:1-11. Diwedda un pregethwr ei bregeth ar yr adnodau hyn â gweddi ryfedd, ond gwych iawn: Lord, make me a perfect ass.