Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Arabeg: gurfa. Yn fras, gurfa yw’r mesur o ddŵr a ellir ei ddal yng nghledr eich llaw.
Yma, yn y Gorllewin, ‘rydym yn ymwybodol iawn o’n anghenion emosiynol - yr angen am gariad, hunaniaeth, diogelwch, cysur a chymorth i fyw; ond cawn ein hamddiffyn i raddau helaeth rhag realiti amrwd ein hanghenion mwyaf sylfaenol. Tueddwn, er enghraifft, i gymryd dŵr glân yn gwbl ganiataol. Mae’r glaw, sydd gymaint o destun cwyno gennym, a’r defnydd effeithiol o gronfa a phibell yn sicrhau cyflenwad cyson a digonol o ddŵr i bawb ohonom.
Ni wyddai’r Salmydd beth oedd bod mewn sefyllfa i gymerid dŵr yn ganiataol ... y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a’m cnawd yn dihoeni o’th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddŵr (Salm 63:1 BCN). Nid jargon ysbrydol a delwedd farddonol yw’r syched hwn am Dduw, ond mynegiant o angen sylfaenol. I awduron y Beibl, ‘roedd yr angen am ddŵr yn llawer mwy real nag ydyw i ni - weithiau yn argyfyngus o real. ‘Roedd eu profiad hwy yn debyg iawn i brofiad miloedd ar filoedd o bobl ledled byd heddiw. Amcangyfrifir fod 663 miliwn o bobl heb ddŵr glân i’w yfed - 1 o bob 10 person ledled byd - a 2.5 biliwn heb garthffosiaeth ddigonol. Mae dŵr wedi ei lygru yn achosi 80% o afiechydon y byd.
Cymerwn ddŵr glân yn ganiataol, ac adlewyrchir hynny yn ein defnydd afradlon o’r adnodd mwyaf gwerthfawr. Mae’r cartref cyffredin yng ngwledydd Prydain yn defnyddio, mewn diwrnod arferol, tua 500 litr o ddŵr.
Llesol, heddiw felly buasai dal gwerth gurfa o ddŵr yng nghledr ein llaw, a chan ystyried y dŵr hwnnw, cofio fod sicrhau digon o ddŵr yn frwydr ddyddiol i lawer gormod o blant Duw: y daith hir, y bwced trwm, y dŵr amhur, y blas cas. Gwnawn hyn nid er mwyn magu euogrwydd ac anobaith, ond i estyn cyfle i Grist i ddatod llinynnau trugaredd ein calon.
F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.