Pa mor real yw ein rhyddid crefyddol heddiw?
Mae gennym berffaith ryddid i gredu beth bynnag y dymunwn gael credu! Ond nid dyna beth yw rhyddid crefyddol. Mae gan bawb, yn ddiwahân, yr hawl i gredu beth bynnag y dymunant ei gredu; ni all yr un gyfundrefn wleidyddol, yn llythrennol, orfodi person i gredu neu beidio â chredu rhywbeth. Rhyddid crefyddol go iawn yw’r hawl i weithredu eich cred ac i ymgnawdoli eich argyhoeddiad. Rhyddid crefyddol yw’r hawl sydd gen i, a gan bawb, i droi ein ffydd yn ffordd o fyw.
Felly, pa mor real yw ein rhyddid crefyddol heddiw?
Yn araf, mae ein rhyddid crefyddol yn cael ei erydu; mor araf fel mae prin y sylweddolir cymaint o dir a gollwyd eisoes! Bu’r newyddion yn drwch o sôn am yr erydu hwn, ond ychydig o ymateb a fu. Cyhoeddwyd mewn llys barn yn yr Almaen yn ddiweddar fod enwaediad yn fygythiad i hawliau dynol person. A fu codi llais a phrotestio? Faint o lais a godwyd yng Nghymru gan ein heglwysi a’u haelodau? Dim am wn i. Pam? Oherwydd nad oes a wnelo’r dyfarniad â ni Gristnogion? Nid ydym yn enwaedu neb! Pa ddisgwyl sydd i eglwys Gristnogol godi llais a phrotestio am hyn o bob peth!?
Dychmygwch dau deithiwr ar awyren. Meddai’r naill wrth y llall, "Arswyd y byd! Mae injan yr adain chwith ar dân!" Atebodd y llall, "Wel, diolch byth ein bod ni’n eistedd ar yr ochr dde!" Heb fod gan bawb ryddid crefyddol, nid oes gan neb rhyddid crefyddol! Gan gydnabod fy mod i’n symleiddio sefyllfa eithriadol gymhleth: yn y gorffennol, fe ellid dweud fod pobl grefyddol yn ymgodymu â phobl grefyddol eraill - er mwyn cael gweld pwy-sy’n-fwy-na-phwy! Erbyn heddiw, mae pobl lliw a llun o bobl grefyddol yn ymgodymu â thueddiad gwrth-grefyddol gwydn, dwfn a phellgyrhaeddol. Cred ac Anghred sydd yn ymgodymu heddiw. O’r herwydd, rhaid i bob perchen cred sefyll gyda phob perchen cred arall, dros ei hawl i fynegi ei argyhoeddiad ac i fyw ei ffydd. Weithiau, buaswn wrth fy modd yn cael rhoi taw ar ambell un, gan fod ei ddehongliad ef (neu hi) o beth yw ffydd, i mi, yn ddehongliad cwbl wyrgam, ond mae’n rhaid i mi ddiogelu ei hawl ef (neu hi) i fynegi ei argyhoeddiad, neu fe gollaf fy hawl innau i fynegi’r hyn sydd i mi’n argyhoeddiad.
Pan orchymynnodd yr awdurdodau crefyddol/gwleidyddol yn Jerwsalem i Pedr ac Ioan i ymatal rhag pregethu’r Efengyl, dyma ymateb y ddau: A yw’n iawn yng ngolwg Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw? Barnwch chwi. Ni allwn ni dewi â sôn am y pethau yr ydym wedi eu gweld a’u clywed. (Actau 4:19-20)
Sylwer, nid yw Pedr ac Ioan yn gwadu safle, dylanwad na gwerth yr awdurdodau. Nid ydynt yn ymwthgar, nag yn haerllug. Mae’r ddau, hyd yn oed, yn gofyn i’r awdurdodau i bwyso a mesur eu hargyhoeddiad: Barnwch chwi. Yn syml, ac yn ddidwyll, mae’r ddau yn mynnu’r hawl i fynegi eu hargyhoeddiad ac i fyw eu ffydd. Mae anoddefgarwch yn malwenna ar draws ein byw. Mae angen gofal a gwyliadwriaeth, nid dim ond am yr hyn sydd i ni gysegredig, ond hefyd am yr hyn sydd i eraill yn gysegredig.
Rhyddid crefyddol? Maddeued y Saesneg hyll: Use it, or lose it!
(OLlE)