Yfory (8/7), rhwng 14:00 -17:00 cynhelir Te mefus er budd ein helusen yng nghartref aelod. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu.
Edrychwn ymlaen at hwyl a bendith ein Hoedfa Foreol Gynnar (9:30) dan arweiniad aelodau Cylch yr Ysgol Sul. Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd a bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Buom, ers mis Medi’r llynedd, dan arweiniad ein Gweinidog yn ystyried ‘Pobl y Testament Newydd’. Daw’r gyfres hon o bregethau i’w therfyn trwy gyfrwng gyfres fechan o fyfyrdodau yn seiliedig ar deulu Bethania!
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) Lasarus fydd testun ein sylw. Liw nos (18:00) Martha fydd gwrthrych yr homili (Ioan 12:2). Eistedd a wnâi Lasarus. Ni allodd Lasarus a gwneud dim mwy na hynny. Yn wir, o wneud hynny, nid oedd yn rhaid iddo wneud dim byd mwy. Dyma yw esiampl Lasarus i ni: eistedd gydag Iesu. Y noson honno, methodd Martha ag eistedd. Anodd i hon oedd bod yn llonydd, mynnodd felly cael gweini. Gwasanaethu a wnâi Martha. Ni allodd Martha a gwneud dim mwy na hynny. Yn wir, o wneud hynny, nid oedd yn rhaid iddi wneud dim byd mwy. Dyma yw esiampl Martha i ni: gwasanaethu.
PIMS nos Lun (10/7; 19:00-20:30).
Koinônia amser cinio dydd Mercher (12/7; 12:00): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd (13/7): Mr Gwynn Matthews (450 mlwyddiant cyhoeddi’r Llyfr Gweddi a’r Testament Newydd) 19:30 yn Eglwys Dewi Sant. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd
Cofiwch am Velothon Cymru. Argymhellir fod pawb yn rhoi ychydig mwy o amser ar gyfer eu taith i'r capel ddydd Sul, yn arbennig ar gyfer yr oedfaon boreol. Os ydych am dderbyn rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gweinidog trwy gyfrwng y dudalen 'Cysylltu'. Diolch.