Bore Sul, Oedfa i’r Teulu a Chymundeb am 10:30. Parhawn i ystyried Ffrwythau’r Ysbryd gan ganolbwyntio’r mis hwn ar lawenydd byrlymog pobl ffydd.
Wrth y bwrdd cawn eto gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Cofiwch fore Sul! Hanner Marathon Caerdydd!
http://www.cardiffhalfmarathon.co.uk/residents-spectators/road-closures/
Bydd yr heolydd i gyd ar agor ar gyfer yr Oedfa Hwyrol.
Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.
Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) testun sylw ein Gweinidog fydd Barnabas: dyma ddyn da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd (Actau 11:24 BCN). Gwelodd Barnabas fod gras Duw yn amlwg yn yr eglwys yn Antiochia - y gynulleidfa gyntaf i ymagor i groesawu Iddewon a Chenedl-ddynion fel ei gilydd. Dyma’r bobl a enillodd y llysenw ‘Cristnogion’, sef dilynwyr Crist - yr enw sy’n parhau o hyd ar aelodau’r Eglwys ledled byd. A haeddodd yr Eglwys yr enw drwy’r canrifoedd sydd gwestiwn arall. Beth am heddiw?
‘Roedd ysbryd Crist y tu ôl i barodrwydd aelodau’r Eglwys yn Antiochia i anfon cymorth i’r brodyr a chwiorydd yn Jwdea - y rhai a fu’n eu beirniadu fwyaf - pan oedd newyn yn y wlad. A’i anfon trwy law'r partneriaid newydd, Paul a Barnabas. Cofiwn hefyd i Barnabas amddiffyn Paul pan oedd rhai o’r brodyr yn Jerwsalem yn amau dilysrwydd ei dröedigaeth.
Gan ddechrau gydag adnod y testun: Yr oedd Joseff, a gyfnewid Barnabas, gan yr apostolion, (sef, o’i gyfieithu, Mab Anogaeth), Lefiad, Cypriad o enedigaeth ... (Actau 4:36 BCN) bydd pregeth ein Gweinidog yn cyffwrdd â HAELIONI Barnabas (‘Roedd Barnabas berchen darn o dir, a gwerthodd ef, a daeth â’r arian a’i roi wrth draed yr apostolion (Actau 4:37 BCN); MENTER Barnabas (Yr oedd yn yr eglwys oedd yn Antiochia broffwydi ac athrawon - Barnabas a Simeon, a Lwcius a Manaen, a Saul (Actau 13:1) a Wedi hwylio o Paffos, daeth Paul a’i gymdeithion i Peta yn Pamffylia (Actau 13:13 BCN). Yn olaf, MADDEUANT Barnabas. Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan, a elwid Marc, gyda hwy; ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb gydweithio â hwy (Actau 15: 37,38 BCN). Er mai da yw edmygu parodrwydd Barnabas i faddau, mentro a rhannu - dylem geisio hefyd efelychu’r rhinweddau hyn yn ein hymwneud â phobl, bro a byd.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol. Derbynnir adroddiad o weithgarwch y cylch Adeiladau, Cyfathrebu, Dinasyddiaeth ac Ymweld.
Ar ddechrau tymor newydd Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, llongyfarchwn y Swyddogion a’r Pwyllgor ar baratoi rhaglen mor ddiddorol, a llawn amrywiaeth. Ein man cychwyn (4/10; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Delwyn Siôn, Caerdydd: ‘Ond Doedden Nhw’n Ddyddie Da’.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (5/10): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (7/10; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
Cynhelir Bore Coffi Cymdeithas y Beibl, fore Sadwrn 8/10; 10:30-12:00) yn Eglwys Bresbyteraidd Park End, Heol Llandenis, Cyncoed.