Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd Addoliad. Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.
Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Bydd ein Hoedfa Foreol (10:30) dan arweiniad aelodau a chyfeillion Parc y Rhath, Llwynbedw a’r Mynydd Bychan. Dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth (Galatiaid 5:22,23 beibl.net). Bu’r rhinweddau a enwir gan Paul yn ei lythyr at bobl Iesu yn Galatia yn echel gwaith yr Ysgol Sul a PIMS trwy gydol y flwyddyn waith hon. Gweddïwn am fendith ein Duw, awdur pob rhinwedd a ffynhonnell pob daioni ar yr Oedfa arbennig hon a fydd yn ystyried pob rhinwedd yn ei dro.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Bydd yr Oedfa Hwyrol (18:00) yng ngofal aelodau a chyfeillion Cyncoed a Phenylan. Trwy gyfrwng yr Oedfa hon byddwn yn dod i adnabod un o broffwydi mawr yr Hen Destament. Mae ei enw’n gyfarwydd i ni, gwyddom rywfaint o’i hanes ond buom ychydig yn ofidus rhag mentro’n rhy agos ato. Down i adnabod Jeremeia trwy gyfrwng pum pen byr, sydd, mewn gwirionedd yn ymdoddi’n un neges: Galwad Jeremeia; Pregeth Jeremeia; Gofid Jeremeia; Gweddi Jeremeia ac i gloi neges y proffwyd.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r oedfa.
Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.