'BETHANIA': RUTH AC ESTHER (3)

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Ruth, i'r ail bennod. Awn drwyddi gan ganolbwyntio ar ambell adnod yn benodol.

Ruth 2:1-11

Ysbrydolodd yr hanes feirdd ac arlunwyr trwy’r oesoedd. ‘Roedd yr arferiad o adael rhai ysgubau i’r tlawd yn hen iawn, ond Israel yn unig a’i cynhwysodd mewn deddf: Pan fedech dy gynhaeaf yn dy faes ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymerid; bydded i’r dieithr, i’r amddifad ac i’r weddw; fel y bendithio yr ARGLWYDD dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo. (Deuteronomium 24:19-22 WM)

Y cymhelliad mawr o fod yn garedig, felly, yw cymeriad Duw ei hun. Ni adawodd i’r genedl anghofio fel y bu hithau unwaith mewn eisiau. Gwaredodd Duw hwy am iddo eu caru; rhaid iddynt hwythau yn awr garu eraill fel y carodd Duw hwy.

Cymerodd Ruth ei lle gyda’r hen a’r tlawd wrth fynd i loffa. Nid oedd ymhell o’r darlun Cristnogol a gawn o’r gostyngedig. Nid oes dim yn rhy isel gan gariad i’w wneud. Golchodd Crist draed ei ddisgyblion.

Wrth gynorthwyo’r anghenus yn ein byd cawn ein hatgoffa gan Paul mai Cariad yw’r cymhelliad cywir, a hebddo, nid yw ddim llesâd. (1 Corinthiaid 13:3)

Ruth 2:4

‘Roedd yn gyfarchiad llawer gwell na ‘Sut ydych chwi?’. Sylwer ar Salm 129:8 - ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr ARGLWYDD arnoch: bendithiwn chwi yn enw yr ARGLWYDD. Dywed y Geiriadur Beiblaidd: "Rhoddid pwys enfawr ar foesgarwch yn y Dwyrain, ac yr oedd esgeulustra ohono yn drosedd dirfawr. Gellid cyhuddo dyn o bethau difrifol heb roddi tramgwydd mawr iddo, ond buasai gomedd talu iddo arwyddion defodol o barch yn ei ddigio. Rhoddid a chydnabyddid cyfarchiad yn ôl y rheolau manylaf."

Aeth yr ymadrodd ‘Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi’ neu ‘Duw fod gyda chwi’ yn ‘Da bo’ch chi’ ar lafar i ni. Pa ddymuniad gwell i arall na hwn? Y mae’n cynnwys popeth, oherwydd os yw Duw gyda pherson y mae gwir fywyd ganddo. Gall ei amgylchiadau fod yn anodd, yn drist, ond os bydd Duw gydag ef bydd llawnder, a llawenydd yn bosibl er waetha’r cyfan.

Ni wn i am un cyfarchiad gwell

nag a ddysgais gan feibion y Dwyrain pell.

A’u dymuniad hwy yw ‘nymuniad i,

‘Tangnefedd Duw a fo gyda thi’.

‘Salaam’; Cynan.

Ruth 2:12

Yr ARGLWYDD a dalo am dy waith, meddai Boas wrth Ruth. Bu’r syniad o Dduw yn ‘talu’ yn amlwg yn meddwl yr Hebrëwr. (gweler 1 Samuel 24:19). Cynnwys gweddi Boas yw am i Dduw fendithio Ruth a’i ddefnyddio ef i fod yn gyfrwng y fendith. Yr awgrym yw ‘a defnyddi fi i’w bendithio, os hynny yw Dy ewyllys’. A dyna ewyllys Duw bob amser, y mae am fendithio person, ac yn fynych iawn y mae am ei fendithio trwy arall. Ni ddefnyddir cyfryngau arbennig goruwchnaturiol, os gellir gwneud yr un gwaith trwy gyfrwng  sydd eisoes wrth law. Bendithia Duw Ruth trwy Boas, fel y gwelir ymhellach ymlaen yn y stori.

Yn y Testament Newydd ymddengys mai eilbeth yw tâl neu wobr. Mae’r pwyslais hwn yn gyson â chymeriad Iesu a geisiai argyhoeddi pobl a fagwyd ar ddysgeidiaeth y bendithir y da yn y byd hwn ond melltithir y drwg. Mae tâl serch hynny ymhob peth da a wna Cristion: a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg. (Mathew 6:3-4 WM)

Mae arnaf eisiau sêl

i’m cymell at dy waith:

ond nid rhag ofn y gosb a ddêl,

nac am y wobor chwaith.

Dafydd Jones