Da a buddiol y cyfle i ddod ynghyd am baned a chacen, sgwrs ysgafn a chwmnïaeth dda - bendith o fore. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu, yn arbennig felly i Mary.
Y GYMDEITHAS
Heno, ein Cymdeithas Ddiwylliannol: noson i'w ryfeddu yn adrodd taith i'w ryfeddu - un o'n haelodau wedi ffawdheglu ar draws yr Affrig! Cawsom holl hynt, helynt, hwyl a helbul yr anturiaeth honno! Diolch Peter. Da gweld y teulu ynghyd, o'r ieuengaf i'r hynaf.
Y SUL
LLŶR GWYN
Noson dda i'w ryfeddu: dathlu llwyddiant Llŷr Gwyn.
Diolch i Enlli, Lleucu, Mari Fflur, Aled Gwyn a phawb fu ynglŷn â'r trefnu.
Cafwyd cyflwyniad hwyliog a buddiol gan Llŷr - da oedd cael bod yn bresennol.
CAFFI CELF
Bore heddiw, Caffi Celf: 'Symphonies in Black’: peintiadau Nicholas Evans.
‘Cam Mawr Ymlaen’
‘Mari Jones a’i Beibl’
‘Diwedd Shifft’.
Lluniau tywyll, ond perthyn i bob un ei olau: golau arbrawf a menter; golau’r Gair; rhybudd rhag hawlio’r Goleuni yn eiddo i ni.
Diolch i bawb.
Y GYMDEITHAS
Heno, ein Cymdeithas Ddiwylliannol: noson hwyliog; siaradwr byrlymus, brwdfrydig a diddorol i'w ryfeddu - Carwyn Graves.
Ei destun? 'Cennin a Chig Oen? Golwg newydd ar fwyd Cymru.'
Diolch i Carwyn am ein hatgoffa, ein haddysgu a'n herio.