BORE COFFI

Da a buddiol y cyfle i ddod ynghyd am baned a chacen, sgwrs ysgafn a chwmnïaeth dda - bendith o fore. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu, yn arbennig felly Rhiannon ac Alun.

Y GYMDEITHAS

Heno Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street: Gwyn Roberts yn cyflwyno 'Ai Trobwynt oedd Tryweryn?': noson ddifyr a heriol eto. Diolch i Gwyn ac i bawb a fu ynglŷn a threfnu a chynnal y cyfarfod.

Y SUL

Dydd Sul, Hydref 30ain

09:30 - Oedfa Aelodau yng ngofal Marged Williams.

Cynhelir Ysgol Sul.

18:00 - Oedfa Hwyrol dan arweiniad y Parchedig Aled Edwards (Z).

Dewch/ymunwch â chroeso.

MINNY STREET A DIWALI

Diolch i bawb a ddaeth ynghyd heno i ‘Minny Street a Diwali’: Goleuadau; Rama, Sita, Jeremeia 4; troi ‘tua chodiad haul’ (Numeri 21:11). Diolch i Horatius Bonar 774/ W Rhys Nicholas 222 a Gwynn ap Gwilym (Ti, Arglwydd y goleuni/sy’n troi y nos yn wawr’) am alw fewn i estyn cymorth.

Y SUL

Oedfaon y dydd yfory dan arweiniad y Parchedig Jeff Williams.

09:30 Oedfa Foreol ac Ysgol Sul (Darpariaeth Zoom); Oedfa Hwyrol am 18:00

Dewch/ymunwch â chroeso. Boed bendith.

EIN SIOE FFASIWN

Noson hynod lwyddiannus i godi arian i Huggard, Banc Bwyd Caerdydd a Cwtsh. Diolch i’r pedair model. Diolch enfawr i Calon Rhiwbeina ag i Jean Salisbury am gyd-lynu'r cyfan.

YR IESU A WYLA

Wythnos yn ôl (14/10) nodwyd pen-blwydd y danchwa ym Mhwll yr ‘Universal’ yn Senghennydd (1913): lladdwyd 439 o bobl. Heddiw, nodir treigl 56 mlynedd ers llithro rhan o’r domen lo yn Aberfan, a dinistrio tai a chladdu rhan o Ysgol Pant-glas. Lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion.