SALM 119 - GRAWYS 2017

Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus ... Salm 119:157a

Ar lwybr y lleiafrif y gwelir y llewyrch mwyaf ac nid ar lwybr y llawer. Annymunol i'r eithaf yw'r gwawd a deflir heddiw ar leiafrifoedd yn ein plith. Fel y dywedodd William (Deon) Inge (1860-1954): Individuals are occasionally guided by reason; crowds never.

Anffawd ac anrhydedd pob gwir ddisgybl yw cael ei erlid ar gorn ei neges. Gwych o ateb a roddes mam Evan Jones (1820-1852; sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Ieuan Gwynedd) pan glywodd fod ei mab yn cael ei regi gan gwmni o feddwon. ''Rydw i'n diolch i Dduw fy mod wedi magu plentyn sy'n ddigon da i gael ei regi', meddai.

Oherwydd rhoddwyd i chwi y fraint, nid yn unig o gredu yng Nghrist, ond hefyd o ddioddef drosto ... (Philipiaid 1:29)

'I HAD TO DROP THE ARMFUL IN THE ROAD'

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Robert Frost (1874-1963)

Dwi’n hoff iawn o waith y bardd Robert Frost. Mae cerddi fel The Road Not Taken, a Stopping by Woods on a Snowy Evening fel asbrin i’m henaid. Fy hoff gerdd yw The Armful. Dyma hi:

For every parcel I stoop down to seize

I lose some other off my arms and knees,

And the whole pile is slipping, bottles, buns -

Extremes too hard to comprehend at once,

Yet nothing I should care to leave behind.

With all I have to hold with hand and mind

And heart, if need be, I will do my best

To keep their building balanced at my breast.

I crouch down to prevent them as they fall;

Then sit down in the middle of them all.

I had to drop the armful in the road

And try to stack them in a better load.

Mae’r gerdd yn adrodd stori syml am ddyn yn cario gormod o bethau. Mae’r pentwr o bethau sydd ganddo yn ei freichiau gwegian, symud - yn dechrau llithro o’i afael. Gwna’r dyn ymdrech i gadw trefn a chydbwysedd yr holl bethau hyn, ond ofer yr ymdrech. Mae’r bardd yn cydnabod hynny:

I crouch down to prevent them as they fall;

Then sit down in the middle of them all.

I had to drop the armful in the road

And try to stack them in a better load.

Mae pentwr o bethau’n gwasgu ar ein hadnoddau o amser, egni ac amynedd. Mae pawb ohonom â llond ein breichiau o amrywiol bethau. Yn wir, mae’r rhan fwyaf helaeth o’r pethau ‘rydym yn cario o ddydd i ddydd yn bethau anhepgor i’r hyn ydym. Ni allwn eu gosod o’r neilltu a pharhau ar ein taith hebddynt! Cwbl ofer yw unrhyw gyngor sy'n awgryma ffolineb felly! Nid oes awgrym o hynny yn y gerdd hon. Mae Frost yn gallach. Y neges sydd ganddo’n syml yw bod rhaid, ar adegau i ni ollwng y pentwr o bethau i ni’n cario bob dydd, i’r llawr: I had to drop the armful in the road. Gwnawn hynny nid mewn anobaith a diflastod, ond er mwyn cael gwell trefn arnynt.

Mae’r Wythnos Fawr yn gyfle i wneud hynny. Cawn gyfle'r wythnos hon i osod yr holl bethau sydd gennym i’w cario ar y llawr, ac wedyn, yng ngoleuni buddugoliaeth Crist, yng ngwawl y Pasg: try to stack them in a better load. Nid yw llawenydd y Pasg yn newid dim a’r ffeithiau ein byw - erys gwaith, erys disgwyliadau, erys hiraeth - ond, mae ffaith y Pasg yn estyn i ni’r nerth i gyflawni’r gwaith, i dderbyn y disgwyliadau, i ymdopi â’r hiraeth: i fyw yn llawn a llydan.

(OLlE)