... weithiau, dyw pethau ddim yn iawn, a llesol yw cydnabod hynny.
Diben syml myfyrdodau’r Wythnos Fawr eleni yw hunanymholiad.
Mewn distawrwydd ystyriwch yr adnod hon o Lyfr Galarnad:
Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd,
a dychwelyd at yr ARGLWYDD.
(Galarnad 3:40)
Yn dawel ac ystyriol offrymwch y weddi hon:
Rhag esgeuluso dyletswyddau ...
Rhag osgoi’r brwydrau y dylem eu hymladd ...
Rhag yr anwiredd sydd mor agos hyd yn oed at ein pethau sanctaidd ...
Gwared ni, Arglwydd. Amen.
Ffrindiau.
Treuliodd Iesu ddydd Mercher yr Wythnos Fawr gyda’i gyfeillion ym Methania. Beth am gysylltu heddiw â hen ffrind?