Heno, yn ein hoedfa Noswyl Nadolig buom yn diffodd y goleuadau, er mwyn cael gweld y Golau.
Man cychwyn yr oedfa oedd pum dyfyniad, a phob un â gair neu gymal ar goll. Rhowch gynnig arnynt. Mae’r atebion ar ddiwedd y cofnod hwn.
Rhown _ _ _ _ _ _ _ _ gwan i’n gilydd
Ar hyd y nos.
John Ceiriog Hughes (1832-1887)
Wedi ing yr hir dristáu
I dŷ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _.
Dic Jones (1934-2009)
Yn _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ nad yw byth ar goll
Yng nghors y byd...
T. H. Parry Williams (1887-1975)
Duw glân, _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _,
Dyro’n ôl Dy wawr i ni.
Waldo Williams (1904-1971)
Mae _ _ _ _ _ _ _ _ _ blaen y wawr
O wlad i wlad yn dweud yn awr
Fod bore ddydd gerllaw;
Mae pen y bryniau’n llawenhau
Wrth weld yr haul yn agosáu
A’r nos yn cilio draw.
Watcyn Wyn (1844-1905)
Wedi gweithio’n ffordd trwy’r dyfyniadau, gwyddom mai Goleuni oedd thema’r Oedfa. Delwedd yw goleuni a ddefnyddir yn y Beibl i gyfleu natur a chymeriad Duw. Y mae datguddiad Duw ohono’i hun fel goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch.
Awgrymodd y Gweinidog fod y ffordd y goleuir yr olaf o luniau’r Adfent: ‘Y Geni’ (1777) gan John Singleton Copley (1738-1815) yn cyfleu gwirionedd oesol gyfoes am Oleuni Duw.
Gwelir golau melyn a golau gwyn. Mae’r golau melyn yn cyfeirio sylw at y Golau gwyn. Y golau melyn? Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos. A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o’u hamgylch… (Luc 2:8,9) Y golau ddaeth gyda’r angylion yw’r golau melyn, ond golau yn arwain at y Golau yw’r goleuni hwnnw! Y Golau yw’r bychan hwn. Mae Mair yn disgleirio; ond, nid Mair yw’r golau. Mae Mair yn disgleirio, gan mai hi sydd gosa’ at y Disgleirdeb ei hun: Iesu.
Yn y cefndir, trwy’r ffenest: lleuad lawn. Cawn gan Copley nid seren, ond lleuad. Mae’r lleuad lawn yn ein hatgoffa o’n gwaith a’n cenhadaeth. Golau wedi ei adlewyrchu yw golau’r lleuad. Nid oes gan y lleuadei golau ei hun. Dyna’n syml yw ein cenhadaeth: adlewyrchu Goleuni Crist. Heb fod ni’n gwneud hynny mae ein crefydda a chrefydda yn debyg iawn i enfys heb liwiau, bara heb furum, jazz heb y rhythm, grŵp heb gitâr, tafarn heb far, neu… gannwyll heb fflam.
Cafwyd egwyl i feddwl a hel meddyliau pan ddaeth yn Manon at y piano a chwarae Clair de Lune – Golau Leuad - gan Claude Debussy (1862-1918).
Wedi i Beca gynnau heno, gannwyll Iesu, ‘roedd pob cannwyll ar dorch Adfent yr eglwys yng nghyn. Dechreuwyd diffodd y goleuadau. Diffoddwyd y lampau hwnt ac acw yn y festri; y rhain oedd y ‘golau’ prysurdeb y Nadolig. Diffoddwyd wedyn prif oleuadau’r festri – ‘golau’ prysurdeb yr eglwys leol dros gyfnod y Nadolig. Diffoddwyd y goleuadau Nadolig lliwgar: ‘golau’ rhialtwch y Nadolig. Diffoddwyd mân oleuadau’r goeden, gan adael llond festri o bobl yng ngwawl canhwyllau’r torch Adfent. Fesul un diffoddwyd y canhwyllau, gan adael dim ond cannwyll Iesu, a phawb yn syllu’n dawel i’r un fflam. Yng ngwawl y gannwyll honno, sylweddolwyd o’r newydd fod Duw, yn nhrwch ein duwch, wedi estyn inni ym Methlehem, gannwyll. Golau bychan bach a chwalodd dywyllwch bedd a marwolaeth, ofn ac ansicrwydd.
Wrth adael heno, cynigwyd cannwyll fechan i bawb i fynd adre’ gyda hwy. Gofynnodd y Gweinidog i bawb, gynnau’r gannwyll rywbryd yfory, gan ystyried y ffordd mae cannwyll yn rhoi golau. Mae cannwyll, wrth oleuo, yn rhoi o’i hunan. Mae’n llosgi allan wrth estyn goleuni. Nid llonydd mo’r fflam. Mae’r fflam yn symud, yn aflonydd, fel pe’n chwilio am dywyllwch i oleuo. Gobaith y Gweinidog oedd y buasai cynnau a gwylio’r fflam am ychydig yn gyfrwng i ni gofio, ac yn gyfle i ni ystyried fod y goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef... (Ioan 1:5).
John Ceiriog Hughes (1832-1887): EIN GOLAU
Dic Jones (1934-2009): GALAR DAW GOLAU
T. H. Parry Williams (1887-1975): GWELD Y GOLAU
Yn olaf ond un, Waldo Williams (1904-1971): TAD Y GOLEUNI
A Watcyn Wyn (1844-1905): TEG OLEUNI