Noson i'w ryfeddu! Dathliad Nadolig ein Cymdeithas Ddiwylliannol: 'un o'n pobl ni' Owen Pickrell yn llenwi'r capel o drawstiau'r llawr i drawstiau'r to â seiniau hyfryd yr organ. Diolch iddo am estyn i ni fedith ei ddawn a'i allu. Wedi'r fath wefr, parhawyd y gymdeithas dros baned a lluniaeth Nadoligaidd yn y Festri. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu a chan ddiolch i Owen.