'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog
Bendithied yr ARGLWYDD di, a chadwed di;
a llewyrched yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt:
dyrchafed yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd.
(Numeri 6:24-26 WM)
Wrth feddwl am eich cyfarch ar ddechrau tymor newydd o waith a gwasanaeth, aeth fy meddwl at eiriau’r fendith a fu â rhan mor amlwg yn ein haddoliad dros y 12 mis aeth heibio. Wrth ystyried y gair olaf, sef tangnefedd, gellid yn hawdd ddigon benthyg geiriau Cynan (1895-1970): Ni wn i am un cyfarchiad gwell ... (Salaam; Cerddi Cynan; Brython, 1959)
Mae pawb yn rhyw fath o ymwybod â breuder byw ac ansicrwydd bywyd. ‘Rhyw fath’, oherwydd nad call yw hel meddyliau o hyd am y pethau hyn! Petawn yn gwneud felly, buasai’r fath meddylid yn ein parlysu yn hytrach na’n sbarduno i weithio. Gyda diwedd Gorffennaf, fe ddaw imi bob blwyddyn ymdeimlad o dreigl amser. Dyna’r pryd, fwy felly na throad y flwyddyn calendr, y cofiaf am wennol gwehydd Job (7:6), glaswelltyn y Salmydd (103:15), a tharth Iago ... mae’n ymddangos am ryw ychydig, ac yna’n diflannu! (Iago 4:4 beibl.net). Ond, digon o Jeremeio! Ni allwn atal llanw amser, mwy nag y gallai Caniwt gynt atal llanw’r môr. Ni wyddom ‘chwaith beth fydd yfory mwy nag y gwyddent yn oes Iago. Nid oes dim amdani ond deisyf am i’r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnom a thrugarhau wrthym. Efe’n unig all ein cynnal, ein cadw a’n cefnogi.
Y frawddeg olaf, mi gredaf, yw uchafbwynt y fendith: ... a rhodded i ti dangnefedd. Hynny yw bendith gyfoethocaf yr hollgyfoethog Dduw. Tangnefedd Duw sydd yn ein cefnogi, ein cadw a’n cynnal. Ar ei bwys, meddai William Williams, Pantycelyn (1717-1791):
Mi drafaelaf
fryniau ucha’r anial dir -
Ni ddiffygiaf.
Dymunaf ichi’r tangnefedd hwn. Ond, cofiwch, nid llonydd diegni mohono. Sonia Iesu am y gorffwystra sy’n dod o gymryd ei iau ef arnom a dysgu ganddo (Mathew 11:29). Felly am y tangnefedd hwn: tangnefedd dan yr iau ydyw. Mae’r pennill syml isod yn cyfleu’r gwirionedd hwn:
Speak a shade more kindly than the year before,
Pray a little oftener; love a little more;
Cling a little closer to the Father’s love;
Thus life shall liker grow to the Life above.
Bydd ceisio gwireddu’r pennill yn golygu gweithio a chydweithio i gyflawni ewyllys Duw yn well. Cymryd iau Crist arnom fydd hynny. Felly y cawn y tangnefedd hwn y soniwn amdano.
Fe’n nerthir o ddydd i ddydd os llewyrcha’r ARGLWYDD ei wyneb arnom. Wele ei addewid i Moses ar achlysur arall: Fe wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystra i ti (Exodus 33: 14 WM). Ac meddai Pantycelyn:
Gwedd dy wyneb serchog yw
fy holl iechyd;
hynny alwaf tra fwyf byw
imi’n wynfyd.
Boed i chwithau’r gwynfyd hwn gydol y ‘flwyddyn waith’ newydd hon, ac i barhau. Dwi’n siŵr na allaf ddymuno mwy, na gwell i chi.
(OLlE)