WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL - 'MIGRANT MOTHER'

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Mae’n Wythnos Cymorth Cristnogol. O’r herwydd cynigaf yn wrthrych a chyfrwng i’r ‘Munud i Feddwl’ heddiw Migrant Mother (1936) gan Dorothea Lange (1895-1965).

Dyma fam sydd â'i hwyneb yn graith o ofid - gofid penodol, uniongyrchol. Mae ei llaw dde yn plycio wrth ei boch, gan dynnu lawr cornel ei cheg. Mae hi’n dlawd - yn amlwg ddigon - ond mae’r llun yn cyfleu nid dim ond tlodi, ond effaith y tlodi hwnnw. Gwelwn yng ngwaith Lange effaith dwfn, dwys tlodi ar unigolyn a’i berthynas ag eraill, a dyna, am wn i, sydd yn esbonio apêl a her oesol y llun hwn.

Adlewyrchiad o'r ddelwedd draddodiadol o’r Madonna a’i phlentyn yw Migrant Mother. Gorwedd plentyn yn ei chôl yn cysgu. Mae’r fam hon yn dymuno caru a thrysori ei phlant, ond mae ei gofid yn llethol. Mae'r blinder affwysol hwn yn dod rhyngddi â'i phlant - a hynny - hyd yn oed wrth iddynt bwyso arni.

Efengyl brydferth, a thra pheryglus yw Efengyl Luc. Mae’n beryglus oherwydd yr union beth sy’n ei wneud yn brydferth: myn Luc ein bod yn gweld gofal Iesu am y gorthrymedig, y tlodion diamddiffyn, a phobl ysgymun cymdeithas. Wrth syllu ar Migrant Mother cawn ein hatgoffa fod y tlodi a bortreadir yma’n fyw ac yn real o hyd. Nid gwaith wythnos yw Cymorth Cristnogol, ond ystâd meddwl - ffordd o fyw - yn seiliedig ar ffaith waelodol ein ffydd: Immanuel - Y mae Duw gyda ni. Pa fodd y medrwn ni fod gyda Duw os anwybyddwn yr anghenus, ymhell ac agos?

(OLlE)