‘Iesu da, blentyn hoff ac annwyl, clodforaf di tra peri anadl. Canaf salmau i’m Duw, am iti fy ngwahodd at dy breseb sancteiddiaf. Er fy mwyn, y gwaelaf o ddynion, yr ymostyngaist i orwedd ynddo. Pwy a’m tyn oddi yma? Neb ond fy Arglwydd Iesu, oherwydd ti yw f’anwylaf un na’m gwahenir oddi wrthyt byth mwy. Yma gan hynny yr arhosaf yng ngwasanaeth fy Arglwydd, a’i fam y fendigaid Fair, a Joseff, a gymerodd arno ddyletswydd tad.
Pan ddaw’r bugeiliaid, agoraf y drws i’w derbyn yn llawen a’u dwyn i bresenoldeb y Brenin tragwyddol. Oherwydd iddynt hwy cyhoeddodd yr angel ddirgelwch y baban gan eu harwain ato. Defosiwn a’u dug yma, a’u sêl dros foli Duw a’u tywysodd yn ôl drachefn. Eto, pan ddaw’r brenhinoedd o’r dwyrain, af allan ar redeg i groesawu’r gwesteion anrhydeddus; ac ar ôl eu cyfarch a dangos iddynt y parch a haeddant, gwahoddaf hwy i mewn i’r llys i weld Brenin y brenhinoedd y mae ei seren yn pefrio fry. Wrth iddynt fynd i mewn, af finnau i mewn; wrth iddynt addoli, addolaf finnau; wrth iddynt offrymu, offrymaf finnau fy hun yn gyfan-gwbl; ie offrymaf bopeth a feddaf yn aberth i’n Harglwydd. A phan ddychwelant adref i’w gwledydd, arhosaf fi yma yn y llys i wasanaethu’r Brenin, fy meistr, a’i fam fendigaid y Forwyn Fair, sy’n wynfydedig dros byth’.