'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Dewch am dro i Nairobi, Cenia. Yng nghanol tlodi Kibera mae Eglwys: Eglwys Anglicanaidd y Drindod Sanctaidd. Eglwys gyffredin, ar wahân i’r ffaith iddi gael ei phaentio’n felyn.
Heb fod ymhell o’r eglwys mae Mosg. Eto, cyffredin yw’r mosg, ar wahân - eto - i’r ffaith fod Mosg Jeddah Kambi hefyd wedi’i baentio’n felyn.
Ai cyd-ddigwyddiad hyn? Sgersli bilîf! Paentiwyd y naill adeilad a’r llall yn felyn ‘nol yn 2015. Pam? Gwell caniatáu i Imam y mosg ar y pryd, Sheikh Yusuf Nasur Abuhamza i esbonio: Yellow is neutral and is the colour of the sun. It reflects on everyone. Yn yr un cyfweliad (Religious News Service; 23/8/2016), meddai’r Parchedig Albert Woresha Mzera, o Eglwys Anglicanaidd y Drindod Sanctaidd, Kibera: The yellow colour symbolizes our openness. It indicates that we can work together as people of faith.
Mae’r melyn yn arwydd gweladwy o oddefgarwch a brawdgarwch. Mae’r eglwys a’r mosg yn rhan o’r prosiect Colour in Faith; dathliad o gytgord crefyddol ledled byd a ddechreuwyd yn Nairobi yn 2015. Bwriad Colour in Faith yw mynegi a dathlu goddefgarwch a chymod rhwng deiliad y gwahanol grefyddau a'i gilydd. Anogir camu allan o gorlan ein heglwys, mosg, synagog, teml ni - nid corlan glyd, ond porfeydd da a wna ddefaid iach - a darganfod ystyr newydd i frawdgarwch, ystyr lletach i gymdogaeth a pherthynas, a gwir ystyr crefydd. Y tri darganfod hwn sydd wrth wraidd gwaith a chenhadaeth Colour in Faith. Erbyn heddiw mae bron i 30 o eglwysi, temlau a mosgiau yn Nairobi wedi’u paentio’n felyn.
Dylid ychwanegu dau bwynt pwysig. Yn gyntaf, pobl y mosg beintiodd yr eglwys yn felyn, a phobl yr eglwys bu’n melynu’r mosg. Yn ail, mae Colour in Faith yn ymateb i fygythiad cyson yr eithafwyr crefyddol o Somalia: al-Shabaab. Yn 2013, ymosododd al-Shabaab a’r ganolfan siopa Westgate yn Nairobi. Lladdwyd 67. Yn Ebrill 2015 bu ymosodiad tebyg â’r Brifysgol Garissa. Lladdwyd 148 o bobl ifanc. Yn y naill ymosodiad a’r llall, gwahanwyd y Mwslimiaid oddi wrth ddeiliad crefyddau eraill, gyda’r bwriad penodol o ladd y rheini.
 ninnau bellach wedi dychwelyd o Genia i Gymru, hoffem ystyried i ddechrau, geiriau’r Imam: Yellow is neutral and is the colour of the sun. It reflects on everyone. ...fe gyfyd haul cyfiawnder â meddyginiaeth yn ei esgyll, meddai Malachi Broffwyd (Malachi 4:2). Mae’r Imam yn gwbl gywir wrth gwrs: mae’r haul i bawb. Nid yw holl fendithion natur ym meddiant pawb. Mae natur yn eithriadol o hael, ond ni ranna’i thrysorau i bawb. Nid yw’r môr er enghraifft yng nghyrraedd pawb. Ceir miloedd o bobl sydd heb erioed weld y môr. Mae natur yn ei phrydferthwch a’i fendith i lawer, ond nid i bawb. Ond, am yr haul, mae ef, yn holl gyfoeth ei oleuni a’i ysblander, i bawb. Yr un modd am haul cyfiawnder: rhaid i yntau fod i bawb. Haul pawb yw haul cyfiawnder: Yellow is neutral and is the colour of the sun. It reflects on everyone.
Yn ail, awgrymodd y Parchedig Albert Woresha Mzera: Kibera has been a hot spot of ethnic violence and we are now using this action to steer for peace. Lliwio’r eglwys yn felyn er mwyn llywio tuag at heddwch! Mater o lywio a lliwio yw crefydd. Gwëwyd hanes crefydd erioed rhwng llyw a lliw. Dyma’r ddeubeth sy’n gwneud synnwyr o grefydd: Llyw a lliw.
Mae crefydd yn broses ac yn batrwm. Proses yn mynd ymlaen heddiw at rywbeth a berthyn i yfory. Patrwm wrth ddychwelyd heddiw at rywbeth a berthyn i ddoe. Hanfod proses yw llywio. Hanfod patrwm yw lliwio.
Os am lywio, y gamp yw llywio gyda’r proses, ac nid yn erbyn. Os am liwio, rhaid lliwio yn ôl gofyn y patrwm, ac nid yn erbyn y patrwm. Peth rhesymol yw hyn, ond dedfryd hanes yw mai’r peth mwyaf afresymol yw disgwyl i’r ddynoliaeth fod yn rhesymol.
‘Roedd Iesu’n ymwybodol o’r broses a chynigodd ef ei hunan i’r dasg o lywio ein bywyd, cyhoedda: Myfi yw’r ffordd (Ioan 14:6). Kibera has been a hot spot of ethnic violence and we are now using this action to steer for peace. Mor fawr yw’r angen heddiw inni lywio ein crefydda tuag at gymod a goddefgarwch. Daliwn ar ein Harglwydd yn dweud, Myfi yw’r ffordd. Llywiwn ein crefydd er iachau a chyfannu’r ddynoliaeth ddrylliedig. Sut mae gwneud hynny? Roedd yr hen ŵr yn ddoeth yn ei gyngor i’r gwas ffarm wrth ddechrau hel cerrig gynt: ‘Dechrau wrth dy draed.’
‘Roedd Iesu’n ymwybodol o’r patrwm a chynigodd ef ei hunan i’r dasg o liwio ein bywyd; sonia yn y bregeth ar y mynydd am wyn fyd (Mathew 5:3-12). O fewn y traddodiad Cristnogol cynfas yw’r gwynder i gyfraniadau amryliw pob lliw, llun a llewyrch o Gristnogaeth. Hyn yn union a ddengys, yn ein hymwneud â deiliad crefyddau eraill nad un o’i liwiau mewn llun a’i gwna’n brydferth, ond yr holl liwiau mewn cynghanedd.
Mae sawl mosg a chapel yng Nghymru sydd bellach yn felyn ei lliw, gan iddynt estyn allan at gymydog mewn brawdgarwch a chymod. Ni fu erioed fwy o angen am eu bath.