Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Gwrthrychau ein Hoedfa fore Sul fydd calon bren, drych, llechen lân a hen Adroddiad. Wrth y bwrdd, hyfrydwch gennym, y Sul hwn eto fydd cael derbyn Tanwen i gyflawn aelodaeth o Eglwys Iesu Grist. Hefyd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r Oedfa.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Wedi cyfnod hapus o addoli ar y cyd, dros y Sul bydd eglwysi Cymraeg y ddinas yn cydio o’r newydd yn ei gwasanaeth a gweinidogaeth. Fel cyfrwng i wneud hynny bydd y Gweinidog yn arwain ffyddloniaid yr Oedfa Hwyrol ar bererindod i Ynys Enlli. Cofiwch, yn yr Oesoedd Canol, pan oedd yr arferiad o bererindota yn ei anterth, roedd tair pererindod i Enlli gyfwerth ag un i Rufain!
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol. Boed iddynt a’r Gweinidog amlygu’r cyfleodd sydd o’n blaen, ein hannog i gydio ynddynt, gan ymroi gyda’n gilydd i osod ein doniau at wasanaeth yr Achos, gan gymryd cyfrifoldeb o fewn yr eglwys, a chofio amdani mewn gweddi.