Bore Sul am 9:30 (capel a ‘Z’) yr Oedfa Gynnar.
Dewch/ymunwch â chroeso.
Cawn gyfle, o’r ieuengaf i’r hynaf, i ystyried arwyddocâd y geiriau isod gan weddïo mewn gobaith iddynt gael bod yn fwy na dim ond geiriau mewn byd o ryfel a rhyfela.
Nos Sul am 18:00
Datguddiad 6:2 a 19:11
Y pedwar march a’i marchogion; gwyn, fflamgoch, du a gwelwlwyd.
Sonia Ioan am farch gwyn arall: ‘… wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir ...’ (19:11)
Dyma ein cymorth cadarn.
Y mae Crist ar ei farch gwyn yn ein galw ato.