Y GYMDEITHAS

Heno, ein Cymdeithas: Ian Gwyn Hughes (Cymdeithas Bêl-droed Cymru) yn sgwrsio â’r Parchedig Ddr R Alun Evans. Noson ddifyr, sgwrs hwyliog a buddiol: y bêl gron; hunaniaeth ac iaith; gwreiddiau, gwreiddyn ac 'Yma o Hyd'. Noson dda eto: diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu a'r paratoi; diolch yn arbennig i'n gwestai ac Alun am ei gyfweld dyheug.

ALLAN, I MEWN AC I MEWN

Allan, i mewn ac i mewn: cip ar wythnos Eglwys Minny Street.

Cyd-gerdded, cyd-drafod, cyd-baneido.

Bethania'n ail ddechrau: agor y Beibl ac ymagor i'r Gair.

‘Croeso Cynnes’: y Festri'n olau a chynnes o groeso i'n cymdogion yn y Waun Ddyfal.

EIN PLYGAIN

Da oedd cael bod nôl yn Eglwys Teilo Sant i gynnal ein Plygain. Ar ôl defosiwn gan ein Gweinidog, dwy rownd o ganu carolau Plygain ac yna Carol y Swper i orffen. Diolch i bawb am bob cefnogaeth; diolch arbennig i’r sawl fu ynglŷn â’r trefnu yn arbenning felly Rhiannon, Helen ac Alun.

SŴP A SGWRS

Sŵp a Sgwrs! Da a buddiol y cyfle i ddod ynghyd am llond powlen o gawl blasus, sgwrs ysgafn a chwmnïaeth dda - bendith o amser cinio. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu, yn arbennig felly i Elinor a Marged.