11:30 yn y Festri: cyfle i ystyried tri darn o gelfyddyd: y cyntaf gan y ffotograffydd Henri Cartier-Bresson; yna darn o wydr crisial o Fenis yr unfed ganrif ar bymtheg ac i gloi gwaith John Lund: anobaith; breuder a dycnwch. Bregus ydym - hawdd felly anobeithio - ond fe berthyn i ni ddycnwch syfrdanol: mae pobl yn wydn, gan fod gennym ffydd yn Nuw ... ac oherwydd bod gan Dduw ffydd ynom ni. Wedi'r trafod, myfyrio a gweddïo, lluniaeth ysgafn cyn troi am adref.
TAITH GERDDED OWAIN LLŶR
Ein taith gerdded heddiw: o siomedigaeth fawr William Burges i eliffantod Montague Burton; o ddarn bychan o wal fawr at res o dai yng nghesail Womanby Street; gorffen gyda hanes Gwyn Nicholls a'r gatiau coffa. Bu'r Angel yn hael ei chroeso am baned a sgwrs ymhellach cyn troi am adref. Diolch i bawb.
OEDFAON Y SUL
OEDFAON Y SUL
Y mis hwn, edrychwn ymlaen at gael cydaddoli yng nghwmni cyfeillion eglwysi Cymraeg y ddinas.
DYDD SUL, AWST 14 : Oedfaon yng Nghapel y Tabernacl, Yr Ais. Oedfaon y dydd dan arweiniad y Parchedig Carwyn Siddall (Llanuwchllyn) 10:30 a 18:00.
Boed bendith.
OEDFAON Y SUL
Y mis hwn, edrychwn ymlaen at gael cydaddoli yng nghwmni cyfeillion eglwysi Cymraeg y ddinas.
Dydd Sul, Awst 7fed: Oedfaon yng Nghapel y Crwys, Heol Richmond; 10:30, 18:00 (Cymundeb).
Oedfaon y dydd dan arweiniad y Parchedig Dafydd Andrew Jones (Caerdydd).
OEDFAON Y SUL
10:30 yfory, Oedfa Foreol (Samgar; Barnwyr 3:31) a chyfle i ymuno trwy gyfrwng Zoom i’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu.
18:00 Oedfa Hwyrol (Enoc; Genesis 5:22).
Y Sul dan ofal ein Gweinidog.
Croeso cynnes i bawb i’r oedfaon.
OEDFAON Y SUL
10:30 yfory, Oedfa Foreol a chyfle i ymuno trwy gyfrwng Zoom i’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu. 18:00 Oedfa Hwyrol. Y ddwy oedfa dan ofal Y Parchedig Aled Davies Chwilog.
Croeso cynnes iddo a chroeso cynnes i bawb i’r oedfaon.
OEDFAON Y SUL
Ein Hoedfa Foreol (10:30) - Oedfa Fedydd Megan!
Perl, lili ac eirth.
Cymundeb. Dim YS.
Boed bendith. Dewch/ymunwch â chroeso (capel/‘Z’).
Ein Hoedfa Hwyrol (18:00) - Bargen ffydd
‘Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di …’ (Diarhebion 4:8 (WM))
Dyrchafwn ein ffydd wrth gredu ynddi!
Dyrchafwn ein ffydd wrth ei dysgu!
Dyrchafwn ein ffydd wrth ei pharchu!
Dewch â chroeso.